Bydd sefydlu system ar gyfer gweithio'n ddwyieithog yn cymryd peth amser, ond unwaith iddo gael ei sefydlu, dylai'r system weithredu'n effeithiol – yn union fel unrhyw system reoli.
Dylai dwyieithrwydd fod yn rhan o'r cynlluniau amser normal: dyddiadau cyhoeddi, amseroedd cyfarfod, amserlenni gwaith ac yn y blaen. Anghofio ac yna ychwanegu dwyieithrwydd fel ôl-ystyriaeth sy'n ddrud o ran amser ac arian.