Calendr Rhyngweithiol

Mae beichiogrwydd yn ddechrau cyfnod newydd mewn bywyd.

Mae’r calendr isod yn eich helpu i ddilyn datblygiad eich babi yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl yr enedigaeth. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am ddatblygiad iaith y babi, a sut gallwch gyflwyno'r Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.

Dewiswch ddyddiad geni tebygol y babi isod, neu dewiswch eich cyfnod ar y llinell amser i weld y wybodaeth sy’n berthnasol i chi. Dyddiad Geni Tebygol (DGT)

0-5 wythnos

Mae’r disgrifiadau isod yn rhoi amcan i chi o ddatblygiad eich plentyn. Cysylltwch â’ch bydwraig i gael mwy o wybodaeth.

Datblygiad corfforol

  • Dyma’r cyfnod mae’r embryo yn cael ei ffurfio ac yn plannu ei hun yn erbyn wal y groth
  • Y galon fydd yn dechrau ffurfio gyntaf ac yna’r ymennydd a’r prif organau eraill
  • Bydd efeilliaid yn ymrannu yn ystod y cyfnod hwn

Datblygu iaith

  • Byddwch yn dechrau gwneud penderfyniadau pwysig yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’n gyfle i feddwl am eich gobeithion i’r babi yng nghyswllt y Gymraeg hefyd
  • Nid yw’n rhy gynnar i ddechrau meddwl am ba iaith y byddwch yn siarad â’r babi. Mae gosod patrwm positif o’r dechrau yn hollbwysig

6-12 wythnos

Mae’r disgrifiadau isod yn rhoi amcan i chi o ddatblygiad eich plentyn. Cysylltwch â’ch bydwraig i gael mwy o wybodaeth.

Datblygiad corfforol

  • Dyma’r cyfnod mae’r ymennydd yn dechrau ffurfio. Yr ymennydd yw un o’r organau cyntaf i ddatblygu
  • Pan mae’r ffetws yn 9 wythnos oed ac yn 2.5 cm (1”) o hyd, bydd yn dechrau ymateb i swn a golau
  • Yn 10 wythnos oed mae’r clustiau a’r clyw wedi datblygu

Datblygu iaith

  • Nid yw’n rhy gynnar i chi ddechrau siarad â’r babi. Mae clywed swn eich llais yn bwysig i’r un bach
  • Ydych chi’n gyfarwydd â rhai hwiangerddi? Dyma gyfle i chi ddechrau chwilio am lyfrau a CDau hwiangerddi – gallwch lawrlwytho CD Twf am ddim yma

13-20 wythnos

Mae’r disgrifiadau isod yn rhoi amcan i chi o ddatblygiad eich plentyn. Cysylltwch â’ch bydwraig i gael mwy o wybodaeth.

Datblygiad corfforol

  • Erbyn wythnos 14 mae’r geg, y tafod a’r llwnc wedi datblygu. Mae gan y ffetws bopeth mae ei angen er mwyn medru siarad
  • Dyma gyfnod cael y sgan a’r cyfle cyntaf i weld eich plentyn
  • Mae’r babi nawr yn fwy bywiog, felly efallai byddwch yn teimlo ambell i gic erbyn diwedd y cyfnod hwn

Datblygu iaith

  • Mae hwn yn gyfle i chi a’ch partner drafod pa iaith i siarad â’r babi a sut i gyflwyno Cymraeg o’r crud gyda’ch gilydd
  • I weld manteision cyflwyno'r Gymraeg, ewch i’r 8 rheswm da
  • Os hoffech ragor o wybodaeth am ddewis enw Cymraeg i’r plentyn, edrychwch ar ein rhestr o enwau

21-28 wythnos

Mae’r disgrifiadau isod yn rhoi amcan i chi o ddatblygiad eich plentyn. Cysylltwch â’ch bydwraig i gael mwy o wybodaeth.

Datblygiad corfforol

  • Bydd y bwmp yn dod yn fwy amlwg yn ystod y cyfnod yma, felly cyfle i Mam brynu dillad mamolaeth!
  • Mae’r esgyrn tu fewn i’r glust yn caledu yn y cyfnod hwn a chlyw y babi yn datblygu’n llawn
  • Mae greddf sugno yn datblygu gyda nifer yn dechrau sugno eu bawd

Datblygu iaith

  • Mae siarad gyda’ch babi yn bwysig. Fe fydd yn adnabod eich llais a lleisiau gweddill y teulu
  • Beth am ddechrau darllen neu ganu i’ch babi? Mae’r babi nawr yn gallu clywed mwy a mwy o synau o’r byd tu allan.

Efallai byddwch yn teimlo’n swil ond does dim angen i neb arall wybod! Gallwch lawrlwytho CD Twf am ddim yma

29-40 wythnos

Mae’r disgrifiadau isod yn rhoi amcan i chi o ddatblygiad eich plentyn. Cysylltwch â’ch bydwraig i gael mwy o wybodaeth.

Datblygiad corfforol

  • Mae’r nerfau yn yr ymennydd yn ffurfio nawr. Erbyn y geni fe fydd tua 6 miliwn o synapsau yn yr ymennydd. Bydd potensial ymennydd y babi ar ei anterth
  • Byddwch yn teimlo’r babi yn symud o gwmpas wrth iddo dyfu i lenwi’r groth
  • Mae synhwyrau’r babi bellach wedi datblygu’n llawn

Datblygu iaith

  • Os nad ydych chi’n siarad Cymraeg eich hun beth am ofyn i berthnasau, ffrindiau a chymdogion siarad Cymraeg â’r babi pan gaiff ei eni?
  • Efallai cewch gyfle i gyfarfod un o Swyddogion Maes Twf mewn clinig neu ddosbarth cyn-geni. Mae’r swyddog yno i’ch helpu ac yn llawn cyngor ar sut i gyflwyno'r Gymraeg o'r crud

0-3 mis

Mae pob babi yn datblygu yn ei amser ei hun. Mae’r disgrifiadau isod yn rhai cyffredinol iawn. Peidiwch poeni os nad yw eich plentyn chi’n ymddwyn yn union fel y pwyntiau isod. Amcan cyffredinol yn unig sydd yma.

Datblygiad Iaith

  • Yn 1 mis oed bydd eich babi yn ymateb i swn ac i wynebau
  • Yn 2 fis oed bydd yn gwenu a chwerthin ac yn dechrau creu synau bach diddorol
  • Yn 3 mis oed bydd yn adnabod eich llais, eich wyneb a’ch arogl

Awgrymiadau

  • Cofiwch, faint bynnag o Gymraeg sydd gennych, mae siarad Cymraeg o’r crud yn bwysig oherwydd ei fod yn rhoi’r dechrau gorau i’ch babi. Dechreuwch arfer siarad Cymraeg o’r cychwyn cyntaf
  • Siaradwch gyda’ch babi yn gyson. Defnyddiwch enw’r babi a iaith ‘siarad babi’. Mae babanod yn ymateb i lais traw uchel ond tawel
  • Edrychwch i wyneb y babi wrth siarad ag ef. Dylech ddal wyneb y babi rhyw 8” neu 10” o’ch wyneb chi
  • Cofiwch barhau i ganu’r hwiangerddi a chwarae CDau Cymraeg i’r babi. Gallwch lawrlwytho CD Twf am ddim yma

4-6 mis

Mae pob babi yn datblygu yn ei amser ei hun. Mae’r disgrifiadau isod yn rhai cyffredinol iawn. Peidiwch poeni os nad yw eich plentyn chi’n ymddwyn yn union fel y pwyntiau isod. Amcan cyffredinol yn unig sydd yma.

Datblygiad Iaith

  • Yn 4 mis oed bydd yn dechrau ymateb pan fyddwch yn siarad ag ef
  • Yn 5 mis oed bydd yn adnabod ei enw ac yn adnabod ei eiriau cyntaf
  • Yn 6 mis oed bydd yn dechrau dynwared synau ac yn cysylltu geiriau â gwrthrychau, e.e. tedi a tegan

Awgrymiadau

  • Beth am chwarae “Ble mae’r tegan?” gyda’r babi?
  • Mae hyn yn dysgu’r babi i adnabod gwrthrychau. Nes ymlaen fe fydd yn gallu enwi’r gwrthrych
  • Beth am ddechrau dysgu enwau’r corff i’r babi?
  • Dynwaredwch eich plentyn yn dynwared synau. Bydd hyn yn ei annog i geisio arbrofi mwy
  • Efallai cewch gyfle i gyfarfod un o Swyddogion Maes Twf. Beth am ofyn i’r swyddog ble mae’r grwp cefnogi Twf agosaf?

6 mis a hyn

Mae pob babi yn datblygu yn ei amser ei hun. Mae’r disgrifiadau isod yn rhai cyffredinol iawn. Peidiwch poeni os nad yw eich plentyn chi’n ymddwyn yn union fel y pwyntiau isod. Amcan cyffredinol yn unig sydd yma.

Datblygiad Iaith

  • Yn 6 mis oed mae rhwydwaith synapsau’r ymennydd ar ei anterth. Gorau po fwyaf o brofiadau iaith gaiff y babi yr adeg yma
  • Rhwng 6 a 12 mis fe welwch wahaniaeth mawr yn natblygiad iaith y plentyn. Bydd yn:
    • dechrau cyfuno sillafau i greu geiriau syml
    • dysgu dweud Mam a Dad
    • dechrau deall cyfarwyddiadau syml

Awgrymiadau

  • Anogwch eich babi i greu synau newydd, e.e. drwy glicio’ch tafod, hymian a pheswch
  • Mae chwarae ‘pi-po’ yn hwyl ar yr adeg yma
  • Canwch hwiangerddi a chaneuon eraill e.e. Gee Geffyl Bach a Mynd Drot Drot. Gallwch lawrlwytho CD Twf am ddim yma
  • Dechreuwch ddarllen straeon syml i’r babi a throi tudalennau llyfrau lluniau. Holwch eich llyfrgell leol am lyfrau Cymraeg addas i fabanod
  • Gofynnwch i’ch Swyddog Maes Twf ble mae’r grwp Ti a Fi agosaf
  • Cofiwch barhau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r babi ac annog teulu, cyfeillion a chymdogion i wneud hynny hefyd.
  • Cymraeg o’r crud – anrheg am byth!