Rhowch fantais i’ch plentyn.
Cyflwynwch y Gymraeg o’r crud
Os ydych yn rhiant neu’n ddarpar riant, mae’n bwysig i chi feddwl pa iaith byddwch yn siarad gyda’ch babi. Mae dewis a gwneud penderfyniad yn gynnar i gyflwyno’r Gymraeg o’r crud yn ei gwneud hi’n haws i ddal ati nes ymlaen. Y cyngor gorau yw dechrau defnyddio’r Gymraeg cyn gynted â phosibl.
Mae’r penderfyniad yn un pwysig – i chi fel rhieni, i’ch plentyn, ac i’r teulu i gyd. Mae siarad dwy iaith yn rhoi mantais i’ch plentyn.
Beth am drafod gyda’ch partner sut byddwch yn cyflwyno’r Gymraeg o’r crud?
Gwyliwch y fideo isod i weld sut mae un teulu wedi rhoi mantais i’w plant drwy gyflwyno’r Gymraeg o’r crud iddynt.
Mae llawer o bethau i feddwl amdanynt...
Gwnewch y penderfyniad i gyflwyno’r Gymraeg i’ch plentyn, a rhowch y dechrau gorau posibl iddynt.Os hoffech ragor o wybodaeth, porwch drwy’r dolenni isod.
Enwau Cymraeg i blant
Grwpiau cefnogi lleol
CD Twf, llyfryn lliwiau a mwy
Rhestr o ysgolion cyfrwng Cymraeg [agor mewn ffenest newydd]
Gwales - siop lyfrau, CDs a DVDs Cymraeg [agor mewn ffenest newydd]
Cyflwyno'r Gymraeg