Llongyfarchiadau i Steffan Twm Jones, Babi Twf mis Chwefror 2012!
Roedd rhieni Steffan eisoes wedi penderfynu ar enw Cymraeg i’w babi cyn iddo gyrraedd! Ac ers hynny maent wedi dechrau canu rhigymau gyda Steffan ar ôl prynu CD o ganeuon Cymraeg.
Maen nhw hefyd yn awyddus i ddechrau dysgu Cymraeg er mwyn cyflwyno peth Cymraeg yn y cartref ac am gofrestru Steffan mewn meithrinfa Gymraeg er mwyn iddo ddod yn rhugl cyn cychwyn yr ysgol Gymraeg lleol pan fydd yn hŷn.
Pob hwyl gyda’r dysgu!
Cystadleuaeth Babi Twf y Mis