TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
Help / Cymorth

Cyngor i rieni a'r teulu - What is Bilingualism?


Beth yw dwyieithrwydd?

Dwyieithrwydd yw'r gallu i ddilyn agweddau o fywyd bob dydd mewn dwy iaith.  Y cyngor gorau yw dechrau cyn gynted â phosib, yn ddelfrydol cyn gynted a y caiff y plentyn ei eni.

GAIR I GALL!

Gallwch hybu datblygiad iaith plentyn yn y cartref:

  • trwy ofyn cwestiynau diddorol i'r babi/plentyn
  • trwy ofyn i'r plentyn adrodd stori yn hytrach na gwrando drwy'r amser
  • trwy ganu hwiangerddi a chaneuon gyda'ch gilydd
  • trwy chwarae rôl
  • trwy sicrhau fod pob sgwrs rhwng plentyn ac oedolyn yn briodol i blentyn
  • trwy canmol y plentyn yn gyson am siarad dwy iaith

OEDDECH CHI'N GWYBOD?

bob babis a phlant bach yn medru 'dal' ail iaith yn hytrach na'i ddysgu oherwydd

  • eu bod yn canolbwyntio ar gyfleu eu neges a chael atebion yn hytrach na phoeni am gamgymeriadau ieithyddol
  • eu bod hefyd yn medru dysgu ynganu'n gywir yn naturiol drwy ddysgu synau unigryw 2 iaith, yn wahanol iawn i oedolion.
  • bod trosglwyddo meddyliol yn digwydd o un iaith i'r llall, e.e. os yw plentyn yn dysgu symiau lluosi a rhannu mewn un iaith nid oes rhaid i'r sgiliau hynny gael eu hailddysgu yn yr ail iaith.

YN OLAF!

  • Ni fydd dysgu Cymraeg yn amharu ar ddatblygiad y Saesneg
  • Mae ymchwil yn dangos bod effeithiau bod yn ddwyieithog yn bositif ar ddatblygiad iaith, gan gynnwys iaith gyntaf.
  • Pan fydd yn dysgu dwy iaith ar yr un pryd, daw'r plentyn yn fwy ymwybodol o iaith ei hun, mae cael dau neu ragor o eiriau am bob gwrthrych, syniad neu gysyniad yn ehangu yn hytrach na chyfyngu'r meddwl.

Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0