TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
 
 
Help / Cymorth

Cyngor i rieni a'r teulu - You and your Baby


Chi a'ch Babi

Mae penderfynu magu eich babi yn ddwyieithog yn benderfyniad pwysig. Penderfyniad sydd yn mynd i gael dylanwad ar fywyd eich babi ac arnoch chithau fel rhieni.

Os ydych chi a'ch partner yn siarad Cymraeg, mae'n fwy na thebyg y byddwch chi'n siarad Cymraeg â'ch gilydd fel teulu. Bydd eich babi felly yn tyfu i fod yn gwbl ddwyieithog.

 

Ond os mai dim ond un ohonoch chi sy’n gallu siarad Cymraeg, mae'n hollbwysig eich bod yn defnyddio'r Gymraeg o'r cychwyn cyntaf gyda'ch babi.

 

Top Tips Twf

Sut i gyflwyno'r Gymraeg yn y cartref?

 

  • Gwnewch benderfyniad i gyflwyno’r Gymraeg i’ch babi cyn y caiff ei eni.
  • Defnyddiwch y Gymraeg gyda’ch babi o’r cychwyn cyntaf. Os medrwch siarad Cymraeg, defnyddiwch hi bob amser.
  • Chwaraewch CDs Cymraeg yn y cartref ac yn y car. Ewch i www.fflach.co.uk i weld eu dewis nhw o CDs.
  • Gwyliwch Cyw ar S4C a DVDs Cymraeg. (S4C digidol: [Cymru] Sky –104, Freeview – 004, Virgin TV 194. [DU] Sky 135).
  • Darllenwch lyfrau Cymraeg gyda’ch babi. Gallwch eu benthyg am ddim yn eich llyfrgell leol.
  • Adeg penblwydd a’r Nadolig gofynnwch i’r teulu brynu DVDs Cymraeg i’ch plant. Cewch weld yr adnoddau sydd ar gael wrth fynd i www.sainwales.com a www.camaubach.com.
  • Dewiswch ofal plant cyfrwng Cymraeg.
  • Ewch i’r Cylch Ti a Fi lleol. Cewch wybodaeth am eich Cylch lleol drwy fynd i www.mym.co.uk
  • Fel siaradwr Cymraeg, cefnogwch deuluoedd eraill i gyflwyno’r iaith i’w plant.

Ewch amdani! Rhowch y Gymraeg o’r crud i’ch babi chi.


Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0