TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
Help / Cymorth

Cyngor i rieni a'r teulu - How to be bilingual?


Sut i fod yn ddwyeithiog?

Strategaethau ieithyddol yn y teulu

Sut i fagu plant yn ddwyieithog?

Gall rhieni ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau iaith llwyddiannus i fagu plant yn ddwyieithog. Strategaethau posibl:

Strategaeth 1: Mae'r ddau riant yn siarad iaith wahanol gyda'r plentyn. Mae'r strategaeth 'un person-un iaith' yma yn llwyddo fel arfer i helpu'r plentyn i ddod yn ddwyieithog yn ddi-ffwdan.

Strategaeth 2: Mae'r rhieni yn siarad un iaith gyda'r plentyn, sy'n dysgu iaith arall y tu allan i'r cartref. Yng Nghymru mae hyn yn cynnwys plant sy'n dysgu Cymraeg gartref a Saesneg yn yr ysgol ac yn gymdeithasol y tu allan i'r cartref, a phlant sy'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol ac yn dod o gartrefi Saesneg. Mae hon hefyd yn ffordd lwyddiannus i blant ddod yn ddwyieithog.

Strategaeth 3: Mae'r ddau riant yn siarad y ddwy iaith gyda'r plentyn, gan newid ieithoedd yn ôl amgylchiadau.

Cadw'r ddwy iaith ar wahân

Mae arbenigwyr ar ddwyieithrwydd wedi arfer awgrymu cadw profiad ieithyddol plant dwyieithog ar wahân yn y dyddiau cynnar. Mae hyn yn digwydd yn naturiol pan mae un rhiant yn siarad un iaith a'r rhiant arall yn siarad iaith wahanol gyda'r plentyn. Yn y sefyllfa yma mae hi'n hawdd i'r plentyn adnabod pa iaith i'w siarad gyda pha riant.

Plentyn yn cymysgu'r ddwy iaith

Mewn bron pob teulu dwyieithog bydd y plant yn cymysgu'r ddwy iaith, yn enwedig yn y cyfnod cynnar. O safbwynt plentyn, mae cymysgu geirfa'r ddwy iaith yn help i gyfathrebu neges ac ystyr.

Plentyn yn defnyddio dwy iaith gydag un rhiant

Sefyllfa gyffredin iawn yw gweld plentyn yn symud oddi wrth y drefn ieithyddol mae'r teulu wedi ei sefydlu. Bydd y plentyn yn siarad Saesneg â'r fam er mai Cymraeg maen nhw wedi siarad erioed. Yn y sefyllfa yma mae'n bosib pwysleisio strategaeth y rhiant heb ddieithrio'r plentyn a'i droi yn erbyn yr iaith dan sylw.

Rhiant yn dysgu ail iaith ar y cyd â'r plentyn

Nid yw hyn yn anarferol o gwbl. Mae sawl ffordd o gyflawni hyn e.e. efallai y bydd y tad yn dysgu Cymraeg trwy wrando ar y fam yn siarad yr iaith â'r plentyn. Bydd y tad yn dod i ddeall sgyrsiau sylfaenol y teulu yn Gymraeg, ond yn parhau i siarad Saesneg ei hunan. Mae'n gwbl fodlon i weddill y teulu ddefnyddio Cymraeg ond byddai'n teimlon'n annaturiol iddo ef siarad â'r plentyn mewn iaith nad yw'n iaith gyntaf iddo.

Cartref di-Gymraeg

Os yw rhieni yn awyddus i'w plant ddod yn ddwyieithog, ceir amryw ddulliau o gyflawni hyn yng Nghymru, hyd yn oed pan fydd y cartref a'r teulu cyfan yn hollol ddi-Gymraeg. Gall blant ifanc ddysgu Cymraeg mewn meithrinfa, mewn Cylch Meithrin, neu gyda gwarchodwraig plant cyn mynd ymlaen i addysg Gymraeg.

Mae gweld rhieni'n dangos anogaeth a diddordeb yn bwysig iawn i ddatblygiad ail iaith plentyn. Un ffordd syml o ddangos anogaeth yw canmol y plentyn wrth ei glywed yn siarad Cymraeg. Gall rhieni di-Gymraeg hefyd gynnig cymorth ar ffurf deunyddiau Cymraeg fel llyfrau, CDs, posteri a gemau.


Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0