TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
 
 
Help / Cymorth

Cyngor i rieni a'r teulu - Grandparents


Nain a Taid

Os ydych chi'n Nain neu'n Daid, gallwch chi roi help llaw i'ch plant i fagu’u plant hwy yn ddwyieithog. Mae nifer o achosion yng Nghymru lle mae'r Neiniau a'r Teidiau yn helpu i drosglwyddo’r Gymraeg i’w hwyrion mewn cartrefi cymysg eu hiaith.

Dyma gynnig rhai ffyrdd y gallwch chi helpu'ch teulu i drosglwyddo'r Gymraeg i'ch hwyrion:

  • Siarad Cymraeg gyda'ch hwyrion ar bob achlysur
  • Canu hwiangerddi Cymraeg gyda'r plant
  • Gwrando ar CDs Cymraeg yn y tŷ neu wrth fynd yn y car gyda'r plant
  • Chwarae gemau yn Gymraeg
  • Darllen llyfrau Cymraeg gyda'ch hwyrion. Mae digonedd ar gael yn eich llyfrgell leol.
  • Mynychu digwyddiadau Cymraeg gyda'ch hwyrion

Os hoffech glywed am hanesion teuluoedd eraill, yna cliciwch ar y bocs Cyhoeddiadau ar y dde i ddarllen Nain-Iaith hanes teulu Brenda Jones a'r ffordd y mae hi yn helpu i drosglwyddo'r Gymraeg i'w hŵyr.


Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0