TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
 
 
Help / Cymorth

Cyngor i rieni a'r teulu - Twf 'Celebs'


       

'Celebs' Twf

Mae nifer o'r 'celebs' fel Sarra Elgan yn dilyn neges Twf bob dydd, hyd yn oed os nad yw eu partneriaid yn gallu siarad Cymraeg.

Cliciwch ar y bocs cyhoeddiadau ar y dde i ddarllen hanes Suzanne Packer, seren y rhaglen deledu 'Casualty' a'i mab Paris a Tanni Grey Thompson a'i merch Carys ar sut mae nhw yn trosglwyddo'r Gymraeg a'r Saesneg i'w teulu bach.

Suzanne Packer, seren Casualty, a'i mab Paris

Tanni Grey Thompson a'i merch Carys

Mae’r cyflwynydd teledu Sarra Elgan a’i gŵr Simon Easterby, chwaraewr rygbi rhyngwladol newydd gael ei plentyn cyntaf – Soffia. Fel rhieni newydd mae’n nhw’n wynebu’r un cwestiynau a phob cwpwl arall yn yr un sefyllfa – yn meddwl am ddyfodol Soffia cyn iddi gyrraedd y byd. Un peth maen nhw wedi bod yn sicr ohono o’r dechrau yw y bydd Soffia yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.

Pa bryd/Sut benderfynoch chi fagu Soffia i fod yn ddwyieithog?

Sarra : Sain credu roedd erioed yn fater nethon ni drafod. Hyd yn oed cyn i ni  feichiogi neu trafod cael plant ro’n ni’n gwybod ein bod ni eisiau i’n plant fod yn ddwyieithog. Ges i fy magu mewn cartref dwyieithog fy hun felly’n naturiol dwi ishe i mhlentyn i gael yr un cyfle, ac mae Simon o hyd wedi bod yn gwbl gadarn yn y ffaith ei fod eisiau i’n plentyn neu’n plant gael eu magu’n ddwyieithog.

Simon : Yn bendant – ro’n i’n gwybod hynny cyn i ni brynu tŷ a phriodi. Petawn i’n Gymro a methu siarad yr iaith byddwn i’n torri nghalon! Oherwydd, er fy mod yn Wyddel ac yn chwarae dros Iwerddon, ni chefais fy magu yno ac felly dwi’n methu siarad yr iaith. Dwi’n credu gall ond fod o fantais i’r plentyn gan eu bod yn amsugno cymaint o wybodaeth yn ifanc – ma nhw fel sbwng!

Ydych chi’n meddwl fod manteision o fod yn ddwyieithog yng Nghymru?

Simon: Yn bendant, ac falle fel rhywun o’r tu fas alla i weld y sefyllfa yn wahanol a heb yr elfen emosiynol yna o beth y mae’n golygu i siarad Cymraeg. Dwi'n credu yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf dwi ‘di bod ma, mae’r Gymraeg wedi dod yn fwy poblogaidd. Dwi’n credu fod gallu siarad dwy iaith yn fantais i ddysgu ieithoedd eraill yn yr ysgol, fel Sbaeneg neu Ffrangeg. A dwi’n gallu gweld fod manteision o fod yn oedolyn dwyieithog - mae’n agor drysau, yn arbennig o ran y gwaith. 

Sarra : Dwi’n credu fod rhywbeth arbennig iawn o fod yn ddwyieithog - yn enwedig wrth feddwl am ysgol ag ati. Rwy’n falch iawn i fi gael addysg Gymraeg. Ges i gymaint o brofiadau gwahanol yna - rhwng cystadlu ar lwyfan cenedlaethol yr Eisteddfod neu gymryd rhan yn y Cwis Llyfrau. Mae pethau bach fel ‘na yn bendant wedi fy helpu yn y tymor hir. Wrth i mi ystyried fy newis gyrfa er enghraifft, fydden i byth yn gwneud y gwaith yma oni bai mod i’n ddwyieithog – ges i fy nghyfle cyntaf gydag S4C a dwi dal i ’neud lot fawr o ngwaith iddyn nhw.

Mae tadau newydd yn gallu teimlo ar goll unwaith i’r un bach ddod i’r byd - wyt ti’n poeni y bydd y Gymraeg yn dod rhwng Sarra, ti a Soffia?

Simon : Dwi’n gwybod fydda i ddim yn deall popeth ond s’da fi ddim problem ‘da hynny - dwi’n meddwl ei fod yn grêt fod Soffia’n cael mantais dwy iaith o’r diwrnod cyntaf un ac yn y pendraw, dyna beth sy’n bwysig..

Beth am aelodau eraill y teulu ? Pa rôl fyddan nhw’n chwarae?

Sarra: Heb amheuaeth dim ond Cymraeg bydd fy rhieni i yn siarad ‘da Soffia . Roedd mam yn siarad Cymraeg ‘da mol pan o’n i’n disgwyl! Fel pob mam-gu a thad-cu, byddan nhw’n chwarae rôl bwysig iawn ym mywyd Soffia ac yn natblygiad ei Chymraeg. Bydd fy ffrindiau hefyd yn cefnogi magwraeth ddwyieithog Soffia.

Simon : Pan fydd Soffia gyda ni bydd hi’n clywed Cymraeg a Saesneg ond dyw hynny ddim yn unigryw – achos o beth dwi’n deall, mae cannoedd os nad miloedd o blant yn cael eu magu’n ddwyieithog nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd i gyd.

(Ni dderbyniodd Sarra Elgan na'r ffotograffydd daliad am y lluniau yma.  Rhoddwyd gyfraniad i ysbytai Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan.)


Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0