Grwpiau Cefnogi Twf
Mae Twf yn cynnal amrywiaeth o grwpiau cefnogi i rieni a babis i fyny at 10 mis oed. Dewiswch grŵp sydd fwyaf addas i chi:
Siarad Babi
- 4 sesiwn wedi cael eu hanelu at rieni newydd sydd heb ddefnyddio'r Gymraeg yn ddiweddar neu ers gadael yr ysgol.
- Sesiynau ymarferol i ymarfer patrymau iaith syml i ddefnyddio adre gyda'ch babi a dysgu hwiangerddi syml gyda'ch gilydd.
Amser Twf
Sesiynau misol sydd yn cynnig cefnogaeth i rieni a chyfle i:
- ddysgu hwiangerddi newydd.
- weld pa adnoddau Cymraeg sydd ar gael i ddefnyddio gyda'ch babi.
- ymarfer eich Cymraeg a chymdeithasu gyda rhieni lleol eraill.
Cymraeg i Rieni
Cysylltwch â'ch Canolfan Cymraeg i Oedolion lleol am wybodaeth bellach, mae'r cyrsiau'n gyfle gwych i ddysgu'r Gymraeg gyda'ch babi o'r cychwyn cyntaf.
Cysylltwch â Twf (01745) 585120 am fwy o fanylion am y grwpiau cefnogi yma.