TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
Help / Cymorth

Unrhyw gwestiynau? - Will learning a second language interfere with development in the first language?


Yr ateb yw na fydd, yn bendant. Yn gyffredinol, mae effeithiau un iaith ar y llall yn gadarnhaol. Mae ymchwil yn awgrymu bod dod yn ddwyieithog yn cael effeithiau cadarnhaol ar ddatblygiad ieithyddol, gan gynnwys yr iaith gyntaf. Er enghraifft, wrth ddysgu dwy iaith, gall y plentyn ddod yn fwy sensitif i iaith fel y cyfryw ac yn fwy ymwybodol ohoni. Gall fod yn fwy sensitif wrth gyfathrebu ac yn fwy ymwybodol o anghenion gwrandawyr. Bydd bod â dau (neu ragor) o eiriau ar gyfer pob gwrthrych, syniad neu gysyniad yn achosi'r meddwl i ymestyn yn hytrach na chrebachu.

Y dybiaeth yw, i bob golwg, mai dim ond digon o le ar gyfer un iaith sydd yn y pen. Os yw un iaith yn cael ei thywallt i'r balŵn hwnnw, bydd y meddwl yn gweithio i'w effeithlonrwydd mwyaf posibl. Os yw dwy iaith yn cael eu tywallt i'r mannau meddwl, y canlyniad fydd dau falŵn iaith wedi eu hanner-lenwi. Bydd y fath falwnau iaith heb eu llenwi digon yn y person dwyieithog yn creu ymennydd aneffeithlon.

Mae'r cysyniad hwn o ddau falŵn yn anghywir. Yn gyntaf, mae mwy na digon o le yn y mannau meddwl ar gyfer dwy neu ragor o ieithoedd. Mae'n ymddangos yn amhosibl gosod terfyn ar faint o ddysg, dealltwriaeth a gwybodaeth y gall person ei ddal yn ei fannau meddwl. Fel yn enghraifft plentyn sydd wedi dysgu lluosi a rhannu mathemategol mewn un iaith, nid oes rhaid ailddysgu'r cysyniadau hynny mewn ail iaith. Maent yn trosglwyddo'n syth fel syniad ac fel dealltwriaeth i iaith arall (cyn belled â bod gan y plentyn yr eirfa i'w atgynhyrchu yn yr ail iaith honno). Felly, mae'r ddau falŵn iaith yn ymgyfuno yn y mannau meddwl. Mae yna fan meddwl cyffredin y gellir ei wasanaethau a'i gyflenwi gan y ddwy iaith.

Felly, yn hytrach na bod ail iaith yn ymyrryd â datblygiad yr iaith gyntaf, mae'n fwy tebygol o roi manteision meddwl, cymdeithasol a diwylliannol, hyd yn oed manteision economaidd yn y tymor hir.



Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0