TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
Help / Cymorth

Unrhyw gwestiynau? - Will my child learn two languages only half as well as a monolingual child?


Yr ateb i'r cwestiwn hwn yw ‘na fydd', yn bendant. Ni wyddys beth yw terfyn gallu plentyn i ddysgu ieithoedd. Nid yw'n wir bod gan y person uniaith un balŵn iaith llawn a bod gan y person dwyieithog ddau falŵn iaith wedi'u hanner lenwi. Mae gan y plentyn ddigon o le yn yr ymennydd i ddysgu dwy neu ragor o ieithoedd. Mae rhyw ddau draean o bobl y byd yn ddwyieithog ac maent yn dangos bod dwyieithrwydd a theirieithrwydd yn berffaith bosibl.

Mae'n debyg na fydd gan y plentyn dwyieithog eirfa mor fawr ym mhob iaith â'r plentyn uniaith. Ar y cyfan, bydd geirfa gyfan plentyn mewn dwy iaith yn fwy o lawer na geirfa plentyn uniaith. Fel arfer mae gan blant dwyieithog ddigon o eirfa i'w mynegi eu hunain yn rhwydd ac yn rhugl yn y ddwy iaith. Gall fod ambell gyfnod pan fo'r plentyn dwyieithog i'w weld ychydig ar ôl y plentyn uniaith wrth ddysgu iaith. Fodd bynnag, rhywbeth dros dro yw'r arafwch hwn fel arfer. Gyda digon o brofiad ac ymarfer, bydd y plentyn dwyieithog yn mynd trwy'r un camau datblygiad ieithyddol â'r plentyn uniaith. O dro i dro, bydd cyflymder y daith ychydig yn arafach, ond mae'r llwybr trwy'r camau datblygiadol yr un peth.



Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0