Pan yw'r ddau neu'r holl bobl sy'n cymryd rhan mewn sgwrs yn deall y ddwy iaith, mae pwrpas i newid. Mae bron fel petai trydedd iaith wedi cael ei chyflwyno. Gall newid côd ddigwydd mewn talpiau mawr o'r sgwrs, rhwng brawddegau neu o fewn brawddegau.
Mae rhai awduron wedi gwahaniaethu rhwng cymysgu ieithoedd a newid côd. Mae ‘cymysgu ieithoedd' wedi cael ei ddefnyddio i gyfeirio at blant bach yn gynnar yn eu dwyieithrwydd sydd weithiau fel petaent (ar y wyneb) yn defnyddio'r naill iaith neu'r llall yn ddiwahân.
Roedd ‘newid côd' wedyn yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl ddwyieithog a oedd wedi gwahanu eu dwy iaith. Mae llawer o awduron bellach yn teimlo nad yw gwahaniaethu rhwng cymysgu a newid côd yn gall nag yn real. Mae'r drafodaeth hon yn gysylltiedig â thrafodaeth frwd arall ynghylch a yw plentyn ifanc dwyieithog yn datblygu dwy system ieithyddol ar wahân ynteu dim ond un system integredig. Nid yw'r ddadl wedi cael ei datrys gan ymchwil, ond mae cred gynyddol bod plant dwyieithog (mor ifanc â dwy flwydd oed) yn sylwi ar ddau fewnbwn ieithyddol gwahanol gan ddibynnu pwy sy'n siarad, ble a phryd. Yn gynnar iawn, mae plant ifanc yn gwybod pa iaith i'w siarad â phwy ym mha sefyllfa.
Gall pobl uniaith sy'n clywed pobl ddwyieithog yn newid côd gredu eu bod yn dangos bwlch neu ddiffyg cymhwysedd yn y ddwy iaith. Gall pobl ddwyieithog eu hunain bryderu neu ymddiheuro am eu newid côd a'i briodoli i arferion iaith blêr. Ychydig o bobl ddwyieithog sy'n cadw eu dwy iaith yn gyfan gwbl ar wahân. Ychydig o bobl ddwyieithog sy'n siarad eu dwy iaith mor rhugl â siaradwr brodorol. Gall un iaith ddylanwadu ar y llall, ac weithiau mae iaith drechol y person dwyieithog yn dylanwadu ar ei iaith/hiaith llai trechol. Fodd bynnag, mae newid côd yn strategaeth gyfathrebu werthfawr a phwrpasol. Nid yw'n digwydd ar hap. Fel arfer mae cryn reswm a rhesymeg dros newid iaith.
Mae plant yn tueddu i newid côd dim ond pan maent yn siarad â phobl sy'n deall y ddwy iaith. Hefyd mae plant yn dod yn ymwybodol yn fuan a yw newid côd yn dderbyniol ai peidio i wahanol bobl. Hynny yw, mae pobl ddwyieithog yn dysgu'n gyflym i adnabod y sefyllfaoedd cymdeithasol a'r bobl y gallant newid côd gyda hwy ai peidio.