TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
Help / Cymorth

Unrhyw gwestiynau? - What should our language strategy be with an adopted child?


Bydd dewisiadau ynghylch dwyieithrwydd yn wahanol gan ddibynnu ar oedran y plentyn sydd wedi ei fabwysiadu (e.e. a yw'r plentyn eisoes yn siarad un neu ragor o ieithoedd) ac a yw'r rhieni yn siarad iaith y plentyn hŷn hwnnw.

Os yw'r plentyn sydd wedi ei fabwysiadu yn ifanc iawn (er enghraifft, hyd at ddwy flwydd oed), mae'n ymddangos yn ddigon priodol i rieni gydag ieithoedd cyntaf gwahanol ddefnyddio'r ddwy iaith hynny gyda'r plentyn. Pan fo plentyn yn ifanc iawn, bydd yna beth adnabyddiaeth, ond nid adnabyddiaeth fawr, bod iaith wahanol yn cael ei siarad, yn enwedig os yw'r rhieni yn cyflwyno'r ddwy iaith mewn ffordd llawn cydymdeimlad, gofal a chariad.

Un peth pwysig i rieni ei ddewis yw ysgol gydnaws i'w plentyn mabwysiedig. Mae rhai ysgolion yn fwy mewn cytgord gydag amrywiaeth ieithyddol, gyda datblygu iaith i siaradwyr iaith gyntaf ac ail iaith, gyda dathlu'r gwahanol ieithoedd y mae'r plant yn dod â hwy i'r ysgol. Pan fo'r plentyn sydd wedi ei fabwysiadu o oedran ysgol gynradd ac uwchradd, bydd dewis ysgol sy'n sensitif i iaith yn effeithio ar gyrhaeddiad a chynnydd y plentyn yn yr ysgol, ac ar ei hunan-barch.

Mae rhieni rhiant-ganolog yn aml yn gweld bod unieithrwydd yn fwy effeithlon ar gyfer eu hanghenion. O'u cyferbynnu â hynny, gall rhieni plentyn-ganolog weld buddion tymor-byr a thymor-hir i'r plentyn o fod yn ddwyieithog ac yn ddeuddiwylliannol.



Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0