Os ydych yn awyddus i'ch plentyn ddod yn ddwyieithog, mae llawer o ffyrdd eraill heblaw o fewn y teulu. Mae rhai plant yn codi ail iaith trwy fynychu ysgol feithrin, grŵp chwarae neu gyda gwarchodwr/aig. Os yw'r plentyn yn cael parhad yn ei brofiad o ail iaith y tu allan i'r cartref, gall ddod yn ddwyieithog. Mae llawer o blant sy'n siarad un iaith yn y cartref, a thrwy fynychu ysgol feithrin yn rheolaidd, yn dod yn rhugl mewn ail iaith yn fuan. Os yw'r profiad hwnnw yn cael ei gadarnhau gan addysg ffurfiol, gallant ddod yn bobl ddwyieithog medrus iawn.
Gall plant hefyd lwyddo i gaffael ail iaith sgyrsiol yn y stryd. Mae chwarae gyda chyfeillion dros nifer o flynyddoedd gyda'r nos, yn ystod y gwyliau ac ar benwythnosau yn rhoi'r cyfle i ddysgu ail iaith yn ddi boen ac yn ddiymdrech.
Y casgliad peryglus fyddai y dylid dysgu'r iaith gyntaf yn y cartref a bod modd caffael yr ail iaith y tu allan i'r cartref. Safbwynt ffug a pheryglus yw hwn, oherwydd mae agweddau, anogaeth a diddordeb y rhieni yn hanfodol i ddatblygiad ail iaith y plentyn. Gall holi'n addfwyn am ddatblygiad ail iaith y plentyn ddangos i'r plentyn bod gan y rhiant ddiddordeb cadarnhaol. Gall canmol y plentyn wrth ei glywed yn siarad yr ail iaith wneud gwyrthiau i ego ieithyddol y plentyn. Gall ymweld â'r ysgol feithrin neu'r gwarchodwr/warchodwraig a dangos diddordeb yn natblygiad ieithyddol y plentyn yn y cyd-destun hwnnw roi anogaeth i'r athro/athrawes neu'r gofalwr/aig. Bydd hefyd yn dangos i'r plentyn ddiddordeb ac ymwybyddiaeth y rhieni.
Mae yna berygl o adael i ddiddordeb droi'n bryder, ac i frwdfrydedd droi'n ofid. Mae gwên, dweud ‘da iawn', pat ar y cefn a chanmoliaeth garedig yn gallu gwneud gwyrthiau i symbyliad y plentyn. Os yw'r rhiant yn credu bod datblygiad ail iaith yn bwysig, buan iawn y bydd y plentyn yn ei weld yn bwysig hefyd. Os yw'r rhiant yn credu bod i ddysgu ail iaith statws uchel, bydd y plentyn yn tyfu yn ei statws trwy uniaethu â dymuniadau'r rhieni.
Gall rhieni roi cefnogaeth i'r ail iaith ar ffurf casetiau, fideos, llyfrau, posteri a chylchgronau. Un o gyfyngiadau dwyieithrwydd a ddysgir yn y stryd yw bod lefel y datblygiad ieithyddol yn benodol i'r amgylchedd hwnnw. Mae angen i'r sgiliau sgwrsio cymharol syml sy'n ofynnol i gyfathrebu ar y stryd a'r maes chwarae ddatblygu ymhellach. Mae lefel iaith yr ystafell ddosbarth a'r swyddfa yn uwch.
Yn ddelfrydol mae angen i'r plentyn dyfu o wrando ar ail iaith a'i siarad i lythrennedd yn yr iaith honno. Mae llawn dwf yr ail iaith yn dod gyda darllen ac ysgrifennu mewn ail iaith. Gall rhieni annog llythrennedd yn yr ail iaith mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, gall rhieni ddarparu deunydd ysgogol yn yr ail iaith (e.e. llyfrau a chylchgronau). Yn ail, gallant wrando ar y plentyn yn darllen yn yr ail iaith, hyd yn oed os ydynt yn ‘annog' yn hytrach na ‘chywiro'. Mae ymchwil wedi dangos, hyd yn oed os nad yw rhiant yn deall yr hyn mae'r plentyn yn ei ddarllen, mae'r ffaith bod y plentyn yn ymarfer darllen (a hefyd anogaeth a diddordeb gweladwy y rhiant) yn hwyluso datblygiad mewn darllen yn yr ail iaith.
Efallai na all rhieni mewn sefyllfa felly roi cymorth ieithyddol, ond yn bendant mae angen iaith cefnogaeth ac anogaeth.