Mater o gyfle cyfartal yw datblygiad dwyieithrwydd. Nid yw'n ymwneud â hyrwyddo'r iaith Gymraeg ond yn hytrach hyrwyddo'r hyn sydd yn dda ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Mae dwyieithrwydd yn ymwneud ag arfer da nid â gwleidyddiaeth.
Derbyniodd Ddeddf yr Iaith Gymraeg gefnogaeth drawsbleidiol wrth iddi gael ei derbyn gan y Senedd, ac mae arweinwyr pob plaid gwleidyddol yn y Cynulliad wedi arwyddo dogfen sy'n datgan cefnogaeth i'r Iaith Gymraeg ac yn ymrwymo i beidio â defnyddio'r iaith fel testun dadlau pleidiol.