TWF - Magu plant yn ddwyieithog | Raising children bilingually

Cofrestrwch gyda ni i wneud y gorau o’r wefan hon.

Mewngofnodwch os ydych wedi gofrestru yn barod os gwelwch yn dda.

 
Help / Cymorth

Unrhyw gwestiynau? - What effect will bilingualism have on my child's intelligence?


Un gred gyfeiliornus a ddeilliodd o dros ganrif o ysgrifennu ar ddwyieithrwydd yw y bydd deallusrwydd plant yn dioddef os ydynt yn ddwyieithog. Roedd peth o'r ymchwil cynharaf i ddwyieithrwydd yn edrych a oedd plant dwyieithog o flaen neu y tu ôl i blant uniaith mewn profion cyniferydd deallusrwydd (CD). O'r 1920au hyd y 1960au, y duedd oedd i ganfod bod plant uniaith o flaen plant dwyieithog mewn profion CD. Y casgliad oedd bod plant dwyieithog yn ddryslyd yn feddyliol. Roedd bod â dwy iaith yn yr ymennydd, fe ddywedid, yn amharu ar feddwl yn effeithlon. Roedd bod ag un iaith ddatblygedig, fe ddadleuwyd, yn well na bod â dwy iaith wedi hanner eu datblygu.

Roedd yr ymchwil cynnar yn gyfeiliornus. Yn gyntaf, roedd ymchwil o'r fath yn aml yn rhoi prawf CD i blant dwyieithog yn eu hiaith wannaf – Saesneg, fel arfer. Petai'r plant dwyieithog wedi cael prawf yn Gymraeg neu Sbaeneg neu Hebraeg, efallai y byddai canlyniad wedi bod yn wahanol. Roedd profi'r plant dwyieithog felly yn annheg. Yn ail, ni chymharwyd tebyg â'i debyg. Roedd y plant dwyieithog yn tueddu i ddod o gefndir tlawd yn Efrog Newydd neu o gefndir gwledig yng Nghymru, er enghraifft. Roedd y plant uniaith yn tueddu i ddod o deuluoedd mwy dosbarth canol, trefol. Felly mae'n fwy tebygol mai gwahaniaethau dosbarth cymdeithasol yn hytrach na gwahaniaethau ieithyddol oedd y rheswm dros y canlyniadau. Roedd cymharu'r plant dwyieithog ac uniaith yn annheg.

Mae'r ymchwil diweddaraf yn awgrymu bod plant dwyieithog o leiaf gydradd â phlant uniaith mewn profion CD (cyniferydd deallusrwydd). Pan fo gan blant dwyieithog ddwy iaith ddatblygedig (yn y llenyddiaeth ymchwil fe'u gelwir ‘plant dwyieithog cytbwys'), mae plant dwyieithog yn tueddu i ddangos sgôr CD ychydig yn uwch na phlant uniaith. Dyma'r farn seicolegol dderbyniedig ar hyn o bryd ac mae'n newyddion da ar gyfer magu plant dwyieithog. Nid yw dwyieithrwydd yn drysu pobl yn feddyliol; i'r gwrthwyneb, bellach fe'i cysylltir ag ychydig o ragoriaeth ddeallusol.

Y farn seicolegol bresennol ynghylch plant dwyieithog yw, lle mae dwy iaith yn gymharol ddatblygedig, mae gan blant dwyieithog fanteision o ran meddwl dros blant uniaith.

Mae ymchwil ar draws gwahanol gyfandiroedd y byd yn dangos bod pobl ddwyieithog yn tueddu i fod yn fwy rhugl, hyblyg, gwreiddiol a chymhleth yn eu hatebion i'r math hwn o gwestiwn penagored. Mae tuedd i alw'r person sy'n gallu meddwl am ychydig o atebion yn feddyliwr cydgyfeiriol. Maent yn cydgyfeirio i ychydig o atebion derbyniol confensiynol. Gelwir pobl sy'n meddwl am lawer o wahanol ddefnyddiau ar gyfer gwrthrychau anarferol (e.e. bricsen, tun, bocs cardbord) yn ddargyfeirwyr. Mae dargyfeirwyr yn hoffi amrywiaeth o atebion i gwestiwn ac maent yn ddychmygus ac yn rhugl wrth feddwl.

Er bod llawer o bobl uniaith yn ddargyfeirwyr, mae tuedd i bobl ddwyieithog fod o flaen pobl uniaith yn y fath brofion creadigrwydd a meddwl dargyfeiriol. Mae bod â dau neu ragor o eiriau am bob gwrthrych a syniad yn gallu golygu bod mwy o ystwythder wrth feddwl. Efallai bod gan blentyn wahanol gysylltiadau ar gyfer y gair ‘bricsen' yn y ddwy iaith. Er enghraifft, mae gan blentyn dwyieithog Cymraeg/Saesneg y gair ‘school' a'r gair ‘ysgol'. Gan fod ystyr arall i'r gair yn y Gymraeg, mae'r syniad o ysgol fel lle i ddysgu yn cael ei ymestyn i'r ddelwedd o ddysg fel ffordd i ddringo yn olynol trwy addysg ysgol, tua'r nod o gyrraedd y gris uchaf.

Mae dimensiynau meddwl eraill lle gall pobl ddwyieithog sydd â dwy iaith ddatblygedig fod â manteision dros dro ac ambell waith fanteision parhaol dros bobl uniaith: mwy o sensitifrwydd i gyfathrebu, symudiad ychydig yn gynt trwy gamau datblygiad gwybyddol, a bod yn llai caeth i sŵn geiriau a chanolbwyntio mwy ar ystyron geiriau. Er enghraifft, dychmygwch y gofynnir i blant ifanc: beth sy'n fwy tebyg i'r gair ‘cap', ‘cat' ynteu ‘hat'? Mae tuedd i blant dwyieithog ganolbwyntio mwy ar debygrwydd ystyr (h.y. y gair ‘hat') na thebygrwydd sŵn (h.y. y gair ‘cat'). Mae'r gallu hwn i symud i ffwrdd o sŵn geiriau ac i ganolbwyntio ar ystyron geiriau yn tueddu i fod yn fantais (dros dro) i blant dwyieithog o gwmpas pedair i chwech oed. Gall y fantais hon olygu mantais wrth ddechrau dysgu darllen a dysgu meddwl am iaith.



Valid CSS! Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0