Bydd yr ateb i'r cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar agweddau ieithyddol ysgolion meithrin yn unig. Ni fydd yn trafod buddion posibl addysg feithrin fel y cyfryw. Yn y lle cyntaf mae'n bwysig amlygu'r sefyllfaoedd lle efallai na fyddai'n ddoeth anfon plentyn i ysgol feithrin. Os yw'r teulu yn ceisio magu plentyn yn yr iaith leiafrifol, ac mae'r ysgol feithrin yn gweithredu trwy gyfrwng yr iaith fwyafrifol, bydd angen i'r rhieni wneud penderfyniad gofalus ynghylch pryd i gyflwyno'r iaith fwyafrifol. Mae'n well gan lawer o rieni mewn sefyllfaoedd iaith leiafrifol anfon eu plant i ysgolion meithrin iaith leiafrifol. Os yw'r iaith leiafrifol o dan fygythiad a bod angen ei chynnal yn y gymuned, efallai y bydd rhieni eisiau i'w plant ddatblygu yn yr iaith leiafrifol cyn cyflwyno'r iaith fwyafrifol. Mewn sefyllfaoedd iaith leiafrifol o'r fath, mae'n gwbl ymarferol cyflwyno'r iaith fwyafrifol mor hwyr â chwech neu saith oed, a bydd y plentyn yn dod yn rhugl yn yr iaith honno o fewn dwy i bum mlynedd.
Nid yw'r rhan fwyaf o blant mewn sefyllfaoedd iaith leiafrifol yn cael llawer o anhawster caffael yr iaith fwyafrifol. Mae'r iaith fwyafrifol o'u cwmpas yn y cyfryngau torfol, fel yr iaith gyffredin yn y stryd a'r maes chwarae, ac fel y cyfrwng diwylliannol trechol yn yr arddegau. Mewn sefyllfa iaith leiafrifol, mae felly yn gwbl arferol i rieni eisiau anfon eu plant i ysgolion meithrin sy'n defnyddio'r iaith leiafrifol honno. Mae ysgolion meithrin o'r fath yn atgyfnerthu ac yn ymestyn datblygiad ieithyddol y cartref.
Os nad oes addysg trwy gyfrwng yr iaith leiafrifol ar gael i rieni o leiafrif ieithyddol, mae perygl mewn anfon y plentyn i ysgol feithrin iaith fwyafrifol. Gall dod i gysylltiad â'r iaith fwyafrifol yn ifanc leihau'r gobaith y bydd yr iaith leiafrifol yn cadw lle cadarn ym mywyd ieithyddol y plentyn. Mae angen ystyried gohirio ei anfon i ysgol feithrin iaith fwyafrifol o'r fath. Mae yna ddewisiadau eraill a fydd yn sicrhau bod y plentyn yn cael profiad llawn o'r iaith leiafrifol yn y blynyddoedd ffurfiannol hyn, gan gynnwys: cadw'r plentyn gartref, gwarchodwyr cofrestredig, grwpiau chwarae mam a'i phlentyn a grŵp o ofalwyr sy'n cyfarfod o dro i dro.
Ceir sefyllfa wahanol pan fo rhiant iaith fwyafrifol eisiau i'r ysgol feithrin helpu plentyn i ddysgu ail iaith. Yng Nghymru, er enghraifft, mae grwpiau cyn-ysgol, grwpiau mam a'i phlentyn ac ysgolion meithrin y mae plant o gefndir Saesneg eu hiaith yn eu mynychu (gyda siaradwyr Cymraeg) ac yn caffael yr iaith Gymraeg. Drwy chwarae gyda phlant eraill a gemau a gweithgareddau wedi eu trefnu, mae plant mewn ysgol feithrin yn gallu codi elfennau sylfaenol ail iaith yn rhwydd ac yn llwyddiannus. Gan ddibynnu ar sawl awr mae'n eu treulio yn yr ysgol feithrin, mae plentyn yn debyg o ddatblygu dealltwriaeth dda o ail iaith. Daw siarad yr ail iaith yn rhugl yn hwyrach na'i deall.
Mae gallu i ddeall ail iaith a gafwyd mewn ysgol feithrin yn sylfaen werthfawr ar gyfer ffynnu'n ddiweddarach yn yr ysgol gynradd. Weithiau mae rhieni'n gweld nad yw'r ysgol feithrin fel petai'n cael llawer o lwyddiant wrth ddatblygu ail iaith. Maent yn disgwyl siaradwyr rhugl yn rhy fuan. Os yw'r fath ysgolion yn galluogi plant i ddeall ail iaith, bydd y rhieni yn gweld bod addysg gynradd yn gweddnewid dealltwriaeth oddefol yn siarad gweithredol yn eithaf cyflym.
Mewn ysgol feithrin effeithiol y mae'r plant yn treulio'r rhan fwyaf o'r dydd ynddi, a lle mae ysgogiad ieithyddol gan oedolion wedi ei gynllunio a'i gyflwyno'n dda, mae rhuglder mewn ail iaith yn bosibl. Mae'r fath sefyllfa o drochi mewn iaith yn fanteisiol wrth gynhyrchu plentyn dwyieithog.
Yn y fath sefyllfa, nid yw iaith fwyafrifol y cartref mewn perygl. Bydd y plant yn cael digon o brofiad o'r iaith fwyafrifol yn y cartref, yn yr amgylchedd y tu allan ac yn ddiweddarach mewn addysg ffurfiol. Mae caffael ail iaith mewn ysgol feithrin drefnedig a phwrpasol fel arfer yn syml ac yn bleserus. Gosodir sylfaen gynnar a gwerthfawr i ddwyieithrwydd. Mae grwpiau chwarae cyn-ysgol ac ysgolion meithrin sy'n ddigyffro ond yn bwrpasol yn cynnig cyd-destun lle mae plant yn caffael ail iaith mewn modd cudd a thrwyadl.