Pan nad oes digon o gysylltiad ag un iaith, gall defnyddio tapiau fideo a rhaglenni teledu fod yn ychwanegiad cynorthwyol i ddiet ieithyddol plentyn. Mae rhieni yn aml yn prynu tapiau fideo yn yr iaith leiafrifol i annog eu plant i dyfu yn yr iaith leiafrifol. Maent yn teimlo ei bod yn bwysig bod yr iaith leiafrifol ac nid dim ond yr iaith fwyafrifol yn cael ei huniaethu â delweddau sydd â statws uchel yn y cyfryngau torfol. Enghraifft arall yw pan fo siaradwyr Ffrangeg mewn rhanbarthau Saesneg eu hiaith yn prynu fideos Ffrangeg neu'n cael sianelau teledu Ffrangeg trwy loeren. Nid yn unig y mae'r plentyn yn cael profiad ieithyddol trwy'r fath fodd cyfareddol a dymunol, gall hynny hefyd ddyrchafu statws yr iaith ei hun yn llygaid y plentyn trwy gael ei chysylltu â'r ddelwedd fodern bwysig hon.
Mae terfyn i rym rhieni o ran dewis beth a wylir ar y teledu. Mae plant ifanc iawn yn medru troi i'r sianel y maent hwy (ac nid eu rhieni) yn ei dewis. Mae gwylio hoff gartŵn yn dod yn bwysicach nag ymgais y rhiant i drefnu iaith. Ambell waith mae hyn yn gweithio er lles dwyieithrwydd. Gwylio Mickey Mouse neu Bugs Bunny sy'n bwysig, mae ei wylio yn Almaeneg, Ffrangeg, Siapaneeg neu Saesneg yn gallu dod yn gymharol ddibwys i'r plentyn. Mewn llawer o sefyllfaoedd teuluol, mae'r plentyn yn pleidleisio dros ei brofiad o iaith ar y teledu gyda'i fys ar y teclyn rheoli yn hytrach na thrwy law arweiniol y rhiant.
Am nad yw ieithoedd yn cael eu cymysgu ar y teledu, mae'n ymddangos bod mantais i blant wylio'r teledu yn y naill iaith neu'r llall. I bob golwg, mae gwylio un rhaglen yn Almaeneg a'r nesaf yn Ffrangeg yn werthfawr am nad yw'r ddwy iaith yn cael eu drysu.
Fodd bynnag, ni ddylid gorliwio gwerth teledu i ddatblygiad ieithyddol plant. Er y gall helpu i ryw raddau i ymestyn amlochredd ieithyddol y plentyn, cyfrwng goddefol yw teledu yn y bôn. Nid yw plentyn yn ymarfer nac yn defnyddio ei iaith gyda set deledu. Derbyn iaith y mae'r plentyn ac nid ei chynhyrchu. Gall geirfa gwrando plentyn gael ei hymestyn, ond nid yw'r teledu fel arfer yn creu cyfleoedd uniongyrchol i ymestyn ei berfformiad siarad. Ar yr un pryd, mae teledu yn gwneud peth cyfraniad i lythrennedd y plentyn, waeth pa mor fach. Gall teitlau ac is-deitlau, rhestrau timau pêl-droed, teletestun, is-deitlau ar y newyddion roi profiad ieithyddol i'r plentyn sy'n fach ond yn werthfawr.
Perygl arall gyda'r teledu yw ei fod yn aml yn ymestyn iaith gryfaf y plentyn yn hytrach na'r iaith wannaf. Tuedd plentyn yw gwylio teledu mewn iaith fwyafrifol – yn enwedig Saesneg. Mae gan ieithoedd a ddefnyddir llai yn y cyfryngau torfol lai o oriau brig ar y teledu.