Mae llawer o bobl uniaith yn tueddu i gredu mai cyflwr uniaith yn yr unigolyn ac mewn cymdeithas yw'r mwyaf rhesymegol, mwyaf derbyniol a mwyaf cyffredin yn y byd. Ond y gwir yw mai pobl ddwyieithog sy'n fwyafrif yn y byd. Mae yna wahanol amcangyfrifon o ba ganran o'r byd sy'n ddwyieithog. Mae hyn yn anodd iawn, oherwydd gall y diffiniad o bobl ddwyieithog gynnwys neu eithrio pobl nad ydynt yn rhugl iawn mewn un iaith.
Pan ychwanegir tafodieithoedd lleol at y dryswch wrth gynhyrchu ffigwr fanwl gywir, ni fydd unrhyw ganran yn fanwl gywir. Mae'r amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn tueddu i amrywio wrth ddangos bod rhwng 60% a 75% o'r byd yn ddwyieithog. Mae'r casgliad yn glir. Pobl ddwyieithog sy'n fwyafrif yn y byd, nid pobl uniaith.