Lansio cofnod mamolaeth â neges am y Gymraeg
Yng nghynhadledd flynyddol y Coleg Brenhinol i Fydwragedd yng Nghaerdydd ddoe, lansiwyd y Cofnod Mamolaeth Cymru Gyfan gan y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart. Cynhyrchwyd y Cofnod ar y cyd rhwng Twf, prosiect Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a G.I.G Cymru. Maent wedi eu llunio’n bwrpasol i gyd-fynd â’r nodiadau cenedlaethol newydd a fydd yn cael eu rhoi i bob mam feichiog o fis Ebrill ymlaen.
Cafodd y Cofnod ei ddatblygu ar y cyd rhwng Twf, prosiect a ddarperir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg sy’n annog trosglwyddiad iaith o fewn teuluoedd, a’r Gwasanaeth Iechyd. Maent wedi eu cynllunio’n bwrpasol i gyd-fynd â’r nodiadau cenedlaethol newydd a fydd yn cael eu rhoi i bob mam feichiog yng Nghymru o fis Ebrill ymlaen.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd:
“Cafodd y Cofnod ei ddatblygu fel adnodd ymarferol i ddarpar famau, i’w galluogi i gadw’r holl gofnodion a manylion sy’n ymwneud â’u beichiogrwydd mewn un man. Byddant hefyd o gymorth i’r fydwraig wrth iddynt asesu beichiogrwydd y fam.
“Mae’r ffaith eu bod yn arddangos neges Twf hefyd yn allweddol, ac yn ganolog i gyfrifoldeb arall y fydwraig, sef cyflwyno gwybodaeth a fydd yn galluogi darpar rieni i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â rhoi’r dechrau gorau i’w babi, ac mae iaith y cartref yn allweddol i les cymdeithasol plentyn.
Bydwragedd sydd â mynediad at rieni yn ystod yr adeg pan fyddant yn gwneud pob math o benderfyniadau allweddol am fagwraeth a dyfodol eu plant, a bydd y Cofnod yn eu cynorthwyo i gyfleu’r neges ac ennyn trafodaeth ar y mater.”
Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws:
“Mae’r Cofnod, fel holl gynnyrch Twf, wedi ei ddylunio’n ddeniadol, ac yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynglŷn â throsglwyddiad iaith a manteision siarad Cymraeg o’r crud. Maent yn cynnwys geirfa ‘Siarad Babi’ a fydd o help i rieni sy’n anghyfarwydd â’r iaith neu’n anhyderus yn ei siarad i ddweud brawddegau syml wrth eu babi yn Gymraeg. Maent yn ffordd wych o gyflwyno’r neges i rieni, ac yn rhoi cyfle iddynt feddwl a thrafod sut y gallant ddefnyddio’r ddwy iaith yn eu cartref nhw.”
Nodiadau
Heddiw hefyd, lansiwyd tap mesur yn arddangos brand Twf i’w roi i fydwragedd, fel adnodd i’w hatgoffa i gyflwyno neges trosglwyddiad iaith gyda darpar rieni.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Meinir Jones 02920 878000 neu 07977 219395