Croeso!
Mae Twf yn gynllun sy'n rhannu gwybodaeth am werth cyflwyno'r Gymraeg i'ch plentyn o'r crud.
Mae ein neges i’w weld ar hyn o bryd ar y teledu. Os am gopi o CD hwiangerddi yn rhad ac am ddim cliciwch yma gan nodi eich enw a chyfeiriad post twf@cwmni-iaith.com
Mae’r Gymraeg yn anrheg am byth.
Gall siarad dwy iaith roi eich plentyn ar y blaen:
- wrth ddysgu darllen a chyfri
- drwy agor y drws i wneud ffrindiau newydd
- drwy gynnig y gorau o ddau fyd a dau ddiwylliant
- ym myd gwaith gan fod galw mawr am sgiliau dwyieithog
Felly, gwnewch benderfyniad cyn i'ch babi gyrraedd i gyflwyno'r Gymraeg o'r cychwyn cyntaf!
Cymraeg o'r crud - rhowch y cyfle gorau i'ch plentyn. Fe fydd yn diolch i chi.