Hygyrchedd
Rydym am i'n gwefan fod mor hygyrch â phosibl ac rydym yn ceisio cydymffurfio fan lleiaf â lefel hygyrchedd A-sengl fel a nodwyd gan Fenter Hygyrchedd y We.
Mae canllawiau'r WAI hefyd yn sail i safonau Sefydliad Brenhinol y Deillion a'i ymgyrch "See it right".
Ein nod yw cydymffurfio â'r Deddf Camwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 o ran darparu gwasanaethau ar-lein, fel y mae'r Comisiwn Hawliau'r Anabledd yn gofyn amdano. Mae'r Ddeddf hon yn nodi'n ddiamwys bod yn rhaid i wefannau'r sector cyhoeddus a phreifat fod yn hygyrch.
Cofiwch gysylltu â ni os byddwch am roi adborth fel bo modd i ni barhau i wella hygyrchedd y wefan hon.
Nodweddion Hygyrchedd
- Ysgrifennir dolenni i fod yn synhwyrol o'u darllen allan o gyd-destun.
- Mae gan bob delwedd yn y wefan hon ddisgrifiad testun cyfatebol.
- Defnyddiwyd taflenni arddull rhaeadrol ar gyfer cynllun a chyflwyniad.
- Lluniwyd pob tudalen fel bo modd ei darllen heb daflenni arddull.
- Mae'r wefan hon yn defnyddio meintiau ffont perthynol er mwyn galluogi'r defnyddiwr i nodi "maint testun" mewn rhaglenni pori sy'n defnyddio sgrin.
- Mae pob ffurflen yn defnyddio dilyniant Tab rhesymegol.
- Mae labeli wedi eu cysylltu â meysydd mewn ffurflenni HTML.
- Mae map o'r wefan wedi ei gynnwys er mwyn darparu gwybodaeth am gynllun cyffredinol y wefan.
Cyfeiriadau Hygyrchedd
Rhaglenni Pori
Technoleg Ymaddasol
- JAWS: rhaglen darllen sgrin
- Lynx: rhaglen bori testun